Gwres y tân

Wrth ddiffinio rhywbeth yn ôl ei ymyl, mae rhaid dewis. Mi fyddwch chi’n dod wyneb yn wyneb â chlawdd. Os am chwilio ymhellach bydd raid i chi chwilio am y porth.

Dyw hi ddim yn hawdd mynd drwy’r porth, chwaith. Efallai bydd raid i chi rhaid blygu’n go isel. Mae’n bosib, hyd yn oed, i chi gael eich gwrthod. Mae yna reolaeth. Fel arall does fawr o bwrpas i ni fod tu mewn a nhw tu allan.

Os lwyddwch i fynd drwy’r porth, mi fyddwch chi wedi ‘cyrraedd’. Mi fyddwch chi ‘i mewn!’ Mae na ddigon o le i bawb, wrth gwrs, ag eto mae na rai tu allan o hyd. Pwy sy’n rheoli? Pwy sy’n cerdded yn ôl a blaen ar hyd y clawdd? Pwy sydd yn creu a chadw’r du a’r gwyn?

Sut le sydd tu mewn? Wrth fynd drwy’r porth fe ddowch i’r ymyl prysur cecrus. Yma mae’r dadlau am fân wahaniaethau. Yma mae caiff y mintys ei ddegymu. O bryd i’w gilydd, cewch gip ar y canol llonydd tu hwnt. Mae cryn bellter i’w weld rhwng yr ymyl swnllyd ar canol distaw, ond mae’n dda gwybod ei fod yno.

Am funud bach! Draw fancw! Mae ‘na glawdd arall!

Ar y llaw arall, wrth ddiffino rhywbeth wrth ei ganol, mae’n dirwedd gwahanol. Does dim ymyl. Does dim ‘ni a nhw’, ‘du a gwyn’. Mae pawb yn medru dod at y goelcerth. Yr hyn sydd yn ein diffinio yw ein agosrwydd at y gwres a’n gogwydd tuag at y goleuni. Ambell un yn agos, eraill ymhell. Rhai yn wynebu’r goleuni, ac eraill a’u cefnau ato. Pobl yn aml yn galw heibio ar lwybr crwydrol ddolennog, yn dod at y tân, cyn cilio a cheisio eto o gyfeiriad gwahanol.

Neu, o leia, dyna sut ydw i’n i gweld hi. Beth ddwedi di?

(Ysgrifennwyd hwn yn Ebrill 2014)

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn cc. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael sylw